Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5
Rhagfyr 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13583
------
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Am 14.41, cododd Andrew RT Davies Bwynt o Drefn ynghylch cyfraniad a wnaeth Joyce Watson yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n adolygu’r Cofnod.
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Yr Economi Sylfaenol
Dechreuodd yr eitem am 14.42
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - Tynnwyd yn ôl
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Dechreuodd yr eitem am 15.16
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Aros yn Rhagweithiol: diweddariad ar gynnydd
Dechreuodd yr eitem am 15.56
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl
Dechreuodd yr eitem am 16.26
Am 17.07, dywedodd y Dirprwy Lywydd ei fod wedi adolygu’r Cofnod mewn cysylltiad â’r Pwynt o Drefn a godwyd am 14.41 a’i fod o’r farn nad oedd cyfraniad yr Aelod wedi bod yn groes i’r drefn.
8 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NDM8430 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Cofrestrau Etholiadol) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.09
NDM8433 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Rheoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM8432 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Gofrestr o Ddarparwyr Gwasanaethau (Gwybodaeth Ragnodedig a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.17
NDM8431 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 12 a 13 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod eitemau 12 a 13 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
12 Egwyddorion cyffredinol y Bil Seilwaith (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.24
NDM8427 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Seilwaith (Cymru).
Gosodwyd y Bil Seilwaith (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 12 Mehefin 2023.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y Bil Seilwaith (Cymru) gerbron y Senedd ar 24 Tachwedd 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
13 Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Seilwaith (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.24
NDM8426 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Seilwaith (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd Cyfnod Pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 18.19
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2023